Llyfr newydd gyrraedd o’r ether, sef #Bardskull gan #MartinShaw.
Wedi bod yn edrych ymlaen at hwn ers i fi weld ar wefan #Unbound rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mae fy enw yn y cefn!
Sa i’n gwybod cweit beth o’n i’n disgwyl gan hwn, ond dw i yng nghanol y fersiwn gorau o chwedl Culhwch ac Olwen dw i erioed wedi darllen. #DarllenNawr
Mae’n llyfr gwych, ond o ddarganfod bod yr awdur wedi recordio’r fersiwn sain, dw i’n gwrando ar hwnna ar #Scribd - storïwr go iawn yw Martin Shaw, ac mae hon yn stori sy’n werth ei chlywed.