Mynd i Landrindod wythnos nesa am hoe bach, felly darllen am hanes y dre dw i ddim yn nabod yn dda.
Er enghraifft, do’n i ddim yn gwybod mai Llandrindod oedd man geni Percy Jones, basydd gyda'r band jazz fusion, #BrandX
Dyma fideo o masterclass bas ganddo:
Dyma fe gyda’r band ar Old Grey Whistle Test yn 1979. Do’n nhw ddim yn fand o’n i'n gwybod lot amdanyn nhw, dim ond bod Phil Collins yn rhan ohonyn nhw. Bach yn wahanol i'r stwff aeth e ymlaen i'w wneud ar ei liwt ei hunan.