Wedi cymryd 10 mlynedd i fi gyrraedd lefel “Aur” ar y fedal hon yn #Ingress, felly dylwn i gyrraedd y lefel “Onics” erbyn y flwyddyn 2112.
Does dim Hast, nag oes?
(Jôc bach dwyieithog yna, bonws am y nyrds go iawn.)
Newydd edrych ar yr ystagegau #ingress, a dw i wedi dinistrio 4,200 rhagor o gyseinyddion ers i fi bostio hyn, ond maen nhw bron i gyd yn goch. Mae #Machina wedi newid y gêm yn y cefn gwlad, does dim rhaid i'r smyrffiaid ddod ar eu gwyliau i fi gael rhyw fath o gystadleuaeth (a rheswm i fynd ma's i chwarae).
Does dim un chwaraewr cyson i'r tîm glas o fewn 50 milltir, am wn i, oni bai am un yng Nghaerfyrddin sy bron byth yn dod tuag aton yng Ngherdigion