Newydd ddechrau “Ducks, Newburyport” gan #LucyEllmann, ac wedi darllen y rhan fwya o’r brawddegau yn y nofel eisoes, mae’n debyg.
Ar @dyfrig mae’r bai am hyn
https://app.thestorygraph.com/books/516466fa-c5a5-4fa3-9b0e-2ae6cb639dfb
“…the fact that you’ll never know what sort of person you might have been if you’d read different stuff…” (t.908)
Wedi gorffen! Anhygoel o lyfr, gwerth yr amser. Digon hawdd darllen, jyst eisiau setlo mewn i rythym y llais. Mae’r plethiad o hanes teulu’r storiwraig, antur y llewes, a thrwch hanes erchyll yr Unol Daleithiau yn feistrolgar.
Newydd sylwi bod GoogleTranslate wedi cyfieithu "antur y llewes” fel “adventure of the sleeve” [llawes] yn hytrach na “lioness” [llewes].
Os ydych yn dibynnu ar beiriant cyfieithu, cofiwch fod “artificial intelligence" yn drosiad.
… while the GT version of the above is mostly fine (so it does “know" that llewes = lioness) and it's left the bits in quotes in the original Welsh, but has incorrectly mutated "antur y *lewes”