Pa mor debyg yw e mod i’n colli mas ar y feinyl o hyn os dw i’n aros tan fis Chwefror?
Prawf difrifol cyntaf i’r addewid blwyddyn newy’
Pa mor debyg yw e mod i’n colli mas ar y feinyl o hyn os dw i’n aros tan fis Chwefror?
Prawf difrifol cyntaf i’r addewid blwyddyn newy’
Tiwns newydd gan Rhodri Viney (Ratatosk / Right Hand Left Hand), gyda un gân Gymraeg
https://ratatosk.bandcamp.com/album/1?t=2
#GwrandoNawr ar un o’r cewri - ro’n i’n trafod y record hwn gyda @nigelblake wythnos diwetha yn y Pentre
Pecyn o records newydd oddi Juno newydd gyrraedd - ac ar y Sul! Beth fasai Carys Ann yn ei ddweud?
#GwrandoNawr ar glasur #MilesDavis o 1970, sy’n swnio cymaint yn *fwy* ar y stereo go iawn nag yw e trwy egin awyr y ffôn, neu trwy seinyddion bychain y gliniadur.
Rhywun dw i ddim yn dod yn ôl ato’n ddigon aml, ond dyma ni’n yn #GwrandoNawr
#StevenWilson – Grace For Drowning
Cynaint o jazz sy’n hollol newydd i fi. Newydd geisio ordro hyn ond mae ma's o stoc gyda Juno felly dw i wedi mynd am rywbeth arall ganddi.
Bobbi Humphrey - Blacks and Blues
https://www.youtube.com/watch?v=8aJHrwYVz5M&list=PLKpMeSdzdhEbhEL2Zc7ZjumqAKD1HREqv
Wrth fy modd â’r casgliad hwn o gerddoriaeth Erika Fox, y recordiad cyntaf o’i gwaith a hithau ond yn 82. Ffeindiwyd ar hap ar Apple Classical, erioed wedi clywed amdani o’r blaen.
Ddim yn gyfarwydd â hyn o gwbl, na bron dim byd arall o'r cyfnod cyn i Ian Gillan a Roger Glover ymuno, oni bai am ambell i drac fel “Hush”.
Archebais i hwn gan gymryd taw dyma'u halbym cyntaf, sy’n dangos pa mor anghyfarwydd ydw i â “Mark I” - dyma'r trydydd, a'r olaf gan y lein-yp yma.
Tynnu hen recordiau ar hap o'r casgliad, er mwyn gwrando ar bethau dw i ddim wedi eistedd gyda nhw o'r blaen.
Ces i fy nghopi o hyn o siop Terminal Records yn Hwlffordd yn 2016, a does dim cof gen i o'r caneuon cyntaf o gwbl. Un adeg, fyddwn i wedi diawlio'r fath addfwynder, ac nawr mae'n wneud i fi grio, ond wedyn mae popeth yn wneud i fi grio'r dyddiau 'ma.
Rwy’n #GwrandoNawr ar rywbeth addas wrth i fi fwrw ymlaen â #DarllenNawr Bill Vollmann
Sa i’n gwybod sut collais i hwn y llynedd, ond dyma “Tiny Desk" Lisa O’Neill, mis Gorffennaf 2023. Mae'r gân gyntaf, Old Note, yw un sy’n tynnu dagrau o'r hen lygaid sychion hyn.
Band arall dw i heb brynu ar feinyl o'r blaen, oni bai am y sengl wnaethon nhw ar y cyd gyda Nirvana yn 1993 - The #JesusLizard
Mae'r albym newydd hwn yn swnio'n wych, dw i'n falch mod i ddim wedi gwrando arno ar y ffôn cyn i fi gael y feinyl.
https://www.discogs.com/release/31718570-The-Jesus-Lizard-Rack
Wedi gosod rhwymyn gyrru newydd ar y trofwrdd am y tro cyntaf ers i ni ei brynu fe yn 2006, ac mae’n wneud byd o wahaniaeth. Dim ond o edrych ar yr hen un cyn ei roi yn y sbwriel ydw i'n sylwi pa mor wael oedd ei gyflwr - bron â bod yn torri'n llwyr.
Dyma'r record cyntaf i gael gwrandawiad teg ar y dec yn ei newydd wedd:
...ac wrth ddarllen, gwrando ar hwn o CD ddaeth yn y post ddoe, gan yr anhygoel Laura Cannell, y seithfed yn ei chyfres ...Lore eleni.
Luxuria - Beast Box
Band Howard Devoto ar ôl Magazine, nid wnaeth lawer o argraff ar y byd ar y pryd, ond mae hyn yn dda iawn.
Un o'r records o “Casgliad Owen”, sy wedi cyflwyno lot o stwff yr 80au hwyr / 90au cynnar ro'n i wedi colli ar y pryd ac sy ddim rhan o'r canon erbyn hyn.
Ail record “newydd" y dydd, yw casgliad gwerinol hwn gan y #DarkMountainProject ffeindiais i yn Oxfam Aberteifi ddoe, mewn cyflwr perffaith. Dim ond un o’r artisitiaid (Chris Wood) sy'n gyfarwydd i fi, er i fi sylwi nawr bod Mike Mills (REM) yn canu ar un o'r traciau.
Mae'r record yn dal ar gael o Dark Mountain am £14
https://dark-mountain.net/product/from-the-mourning-of-the-world/
#GwrandoNawr - un o’r albyms cyntaf i fi brynu ar CD yn y 2000au cynnar pan ddes i ma’s o fy ngaeafgwsg priodasol - newydd gael copi feinyl sgleiniog.
The #BevisFrond – Valedictory Songs
#GwrandoNawr - Dreamhouse gan Siv Disa
Dewis braidd ar hap o adran sêl @LogoFiasco - enw newydd i fi, a wnes i ddim gwrando ar ei Bandcamp cyn archebu, ond mae jyst y peth am nos Sul ar ôl diwrnod o chwynnu'r ardd a phendwmpian dros lyfr John Cowper Powys.
#DaveEvans - Elephantasia
Erioed wedi clywed hwn o'r blaen, ac mae’n fendigedig. Roedd yn amhosibl cael copi tan yn ddiweddar — mae copiau ail-law o'r gwreiddiol o 1972 ar discogs am £85 i tua £150 — ond mae Earth Recordings wedi’i ail-ryddhau o'r diwedd, a chipiais i gopi o @LogoFiasco yr wythnos 'ma.
Mae pennau metal Mastodon yn gwthio mwy a mwy o stwff gwych yn fy wyneb.
Wrth fy modd gyda'r #CirithUngol newydd yma, edrych ymlaen at glywed gweddill y #JudasPriest newydd, ond dyw e ddim yn hen yskol i gyd: dw i newydd ordro copiau feinyl o stwff diweddar #BellWitch a #BloodIncantation
#GwrandoNawr: https://cirithungol.bandcamp.com/album/dark-parade