Mae'r aros drosodd!
Dyn ni wedi cyffroi i gyhoeddi bydd band nesa i chwarae #gig #ClwbCanna: CANDELAS!!!!!
Bydd #Dadleoli'n cefnogi.
#Tocynnau ar gael yn awr o ticketsource.co.uk/ClwbCanna. Bydd ychydig o docynnau ar gael yn Caban o ddydd Gwener ac o'r wythnos nesa yn Driftwood.
Gaethoch chi’ch talu’n ddiweddar? Oes £12 bach sbâr am noson o adloniant gan band Cymraeg ardderchog?
Tocynnau #Candelas a #Dadleoli yn £12 o Caban, Driftwood a ticketsource.co.uk/ClwbCanna neu'n £14 wrth y drws (cash yn unig)
https://youtu.be/UVmohJ9m2vA
Heno! Wir! Heno! Bydd @Candelasband (ie CANDELAS!!) yn dod i Gaerdydd HENO!!! Tocynnau’n £14 wrth y drws (cash yn unig), neu ychydig yn llai o flaen llaw o ticketsource.co.uk/ClwbCanna
Yn y cyfamser bobl, mwynhewch Rhedeg i Paris!
https://youtu.be/4FfJCBEvOPk
Dydd Llun llwyd? Rhowch anrheg i’ch hun! Ewch i ticketsource.co.uk/ClwbCanna am docyn i #Candelas nos Wener. Neith ’ny’n cadw chi i fynd tan y penwythnos!
Dyma’r bois gyda Ddoe, Heddiw a Fory.
https://youtu.be/GHkjKdQHJdM
Er bod y siopau ar gau heddiw, dych chi’n dal i allu prynu tocyn i weld #Candelas a #Dadleoli nos Wener yn Clwb y Libs, Treganna wrth fynd i ticketsource.co.uk/ClwbCanna
On’d yw hon yn brydferth o gân? Dyma Dant y Blaidd
https://youtu.be/exVr5ErA1as
Cefnogwch fusnesau lleol! Pam lai pigo mewn i siop Caban ym Mhontcanna neu Driftwood yn Arcêd y Castell i brynu’ch tocynnau #Candelas a bwrw golwg dros beth sydd yn y siop? Bydd y gig yn Nghlwb y Libs, Treganna nos Wener 10. £12.
youtu.be/xMqpGsaVzIw