Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn chwilio am gwmni i ddarparu bot sgwrsio AI i fod yn gynorthwydd addysgu. Byddai hi'n ddiddorol cael clywed beth mae darlithwyr a thiwtoriaid proffesiynol yn y maes yn meddwl am hyn.
#DeallusrwyddArtifisial
@carlmorris Dw i'n fwy o Dougal na Ted ynglyn â'r math hyn o beth, dw i'n derbyn y bydd manteision yn y pen draw, yn enwedig gan eu bod nhw am ddatblygiad dwyieithog.
Wrth gwrs, fel tiwtor iaith, mae gen i bryderon, ond dw i ddim am fod yn Cnut Fawr am hyn.
@nic mae'r amseru'n ddiddorol gyda'r streic. Maen nhw eisiau fe ar frys! Gwleidyddiaeth Dosbarth, fel petai..
@nic am wn i mae'n uchelgeisiol i geisio cael un Cymraeg o safon ar gymaint o frys. Dw i ddim yn ymwybodol bod y technoleg yn barod eto
@carlmorris Dyna f’argraff i hefyd. Synnwn i ddim os clywn ni “bydd y fersiwn Gymraeg yn dilyn yn y man” am dair blynedd (neu dair ar ddeg).