Wrthi'n creu cardiau fflach i'r dysgwyr, a geiriadura'r gair "LLAES" i ddewis y cyfieithiad cryno gorau. Sylwi am y tro cyntaf taw'r un gwraidd sydd i'r Saesneg "lax", ill dau'n tarddu o'r Lladin "laxus".
Cyfuniadau:
• soned laes: sonnet having more than ten syllables in each line
• llaes eu moes: bowing low, obsequious.
• côt laes: tail-coat, morning coat
Ar yr un uned o'r cwrs: "ers oes pys".
Oes rhywun yn gwybod o ble mae hyn yn dod? Dw i'n gwybod beth yw'r ystyr, ond pam "pys"?
Mae'r GPC yn rhoi "= oes mul", sy ddim yn help fawr!
Dyma'r cardiau, rhag ofn eu bod nhw o iws - cofiwch wasgu "Join this class" os dych chi eisiau defnyddio'r cardiau ar #Quizlet heb dalu am gyfrif Quizlet Plus.