Ddim yn wneud rhyw lawer o ail-ddarllen y dyddiau hyn, ond mae'r chwaer wedi prynu'r ail a thrydedd gyfrol yn y gyfres hon i fy mhenblwydd, ac mae'n ddwy flynedd ers i fi ddarllen y gyntaf, felly does dim cof ohoni o gwbl - oni bai am y cof o'i mwynhau mas draw. #StoryGraph #DarllenNawr #BeckyChambers https://app.thestorygraph.com/books/2db89333-4ad8-47ba-9ae1-de5ab300d429
Wir ddim yn deall pam dw i ddim yn darllen mwy o wyddonias. Wastad yn joio, yn enwedig y stwff newydd.
@nic os dio unrhyw help mae nhw gyd yn sefyll ar eu traed eu hunain a sdim rhaid mynd nol. Mwynha!
@nwdls Rhy hwyr nawr, ond dw i’n falch mod i wedi mynd nôl. Mae ‘da fi “All the Birds in the Sky” hefyd, ti’n nabod hwnna?
@nic mae'n un or llyfrau prin dwi awydd mynd nol ato a deud y gwir. Na, heb glywed am hwnna. Da te?
@nwdls Newydd gyrraedd, heb ei agor ‘to, ond oedd e ar y wishlist, meddwl fallai taw ti oedd wedi argymell
@nic Murderbot Diaries : All Systems Red yn dda o ran gwyddonias ond hefyd yn ddoniol iawn. Isio darllen y gyfres i gyd. Rosewater yn ffantastic. Clywed pethau da am Bobiverse hefyd.