Rhywbeth pert yng nghysgod y clawdd yn ein gardd. Ddim 100%, ond dw i'n meddwl efallai taw “Eirin a chwstard" (Tricholomopsis rutilans) yw e. Ddim eisiau ei bigo gan taw dim ond un fadarchen sydd, a dw i ddim wedi’i gweld o'r blaen yn yr ardd.
Ddim yn fwytadwy, mae’n debyg, er bod rhywbeth bach wedi cael go arno!
@nic Hyfryd! Am ryw reswm mae madarch yn wastad edrych mor wych mewn ffotograffau. Mae 'na jyst rhywbeth amdanyn nhw.
@Dewines Wir yr! Do'n i ddim yn trial tynnu llun neis, hyd yn oed, jyst eisiau gwybod pa liw oedd y tagelli, a ddim eisiau mynd ar fy mhedwar ar y borfa wleb!