#DaveEvans - Elephantasia
Erioed wedi clywed hwn o'r blaen, ac mae’n fendigedig. Roedd yn amhosibl cael copi tan yn ddiweddar — mae copiau ail-law o'r gwreiddiol o 1972 ar discogs am £85 i tua £150 — ond mae Earth Recordings wedi’i ail-ryddhau o'r diwedd, a chipiais i gopi o @LogoFiasco yr wythnos 'ma.
Newydd sylwi bod Earth wedi wneud yr un peth gyda albym cyntaf Dave Evans, sy gyda fi ar CD, ond ddim ar feinyl. Och.
Mae ofn Earth Records arna i. 'Swn i’n dechrau casglu eu stwff fel ydw i gyda ambell i label bach arall, fyddwn i mewn trwbwl. Mae eu catalog yn eang, ac yn ddwfn, ac mae popeth ynddo yn dda, o Anne Briggs i Bagpuss. https://earthrecordings.bandcamp.com/merch