Ddim yn gyfarwydd â hyn o gwbl, na bron dim byd arall o'r cyfnod cyn i Ian Gillan a Roger Glover ymuno, oni bai am ambell i drac fel “Hush”.
Archebais i hwn gan gymryd taw dyma'u halbym cyntaf, sy’n dangos pa mor anghyfarwydd ydw i â “Mark I” - dyma'r trydydd, a'r olaf gan y lein-yp yma.
Purple oedd un o'r bandiau ro’n ni'n eu haddoli yn y cyfnod ddechreuon ni (fi a fy ffrindiau yn Y Waun) wrando ar gerddoriaeth o ddifri yn yr 70au hwyr.
Doedd dim un o’u records gyda fi ar y pryd, gan taw Black Sabbath oedd “fy mand i”, yr un oedd rhaid i fi gael gafael ar eu stwff er mwyn eu recordio i'r bois eraill.
Y boi drws nesa oedd yn casglu stwff Purple a Rainbow, a fe oedd yr un cyntaf i gael gitâr go iawn hefyd -- Strat gwyn, wrth gwrs, ond un “Fender Squire”, os dw i'n cofio'n iawn.
(Mae'r albym hwn yn ffilertastig, chwarae teg. Ddim yn cwyno, byddwn i'n gwrando ar jams Jon Lord a Ritchie Blackmore tan Dydd y Farn.)
Efallai ar ôl oi fi ddarganfod a chyfarwyddo ag hanes cynnar y Porfforion, af i ymlaen at gyfnod arall dw i wedi’i anwybyddu hyd yn hyn: yr 80au.
Gwleddwch eich llygaid…