Wedi bod yn arbrofi gyda #Tusky a gweld 'Trywydd' yn chwithig am 'Threads' wedi cynnig 'Edefyn' fel awgrym. Yna sylwais bod cymysgedd o 'gweinydd' ac 'enghraifft' am 'instance' (baswn yn ffafrio 'gweinydd' g.ll.), ond mae yna hefyd servers ac examples yn y testun gwreiddiol hefyd. Sori os yw''n hen drafodaeth @nic @davidoclubb @carlmorris @iestynx
@rhysw swnio fel eu bod nhw wedi defnyddio tipyn o gyfieithu awtomatig yna. Roedd yr un fath o bethau yn nhrosiad Mastodon ei hunan. Mae’n werth bod yn ddewr, a newid pethau sy’n swnio’n rong
@rhysw fallai byddai’n werth edrych ar ffeils cyfieithu Mastodon, er mwyn bod yn gyson
@nic Syniad da. Ia, gwelais ambell beth oedd heb ei wirio o allborth awtomatig dwi'n siŵr a byddai'n egluro'r enghraifftiau o 'enghreifftiau'!
@rhysw er enghraifft = for instance, innit?
@nic ia, ia, ond mae cymysgedd yn y cyfieithiad, weithiau mae instance yn cael ei alw'n weinydd, tro arall mae'n cael ei alw'n enghraifft. Dwi'n siŵr cytunwyd ar 'gweinydd' sbel yn ôl, a dwi'n hapus fel arfer i fod yn ddewr a newid enghraifft>gweinydd, ond mae yna dipyn o sôn am servers hefyd! Ond problem Masterson yw hyn, nid dim ond un Tusky'n unig.
@rhysw clywed llai a llai sôn am “instances” erbyn hyn yn gyffredinol, am wn i. Dewis rhyfedd yn y lle cynta, o feddwl beth yw ystyr y gair mewn cydestun MMORPGs. Yr holl bwynt yw bod instances ddim yn gallu cyfrathrebu a’i gilydd
@nic Wel, o sbïo ar gyfieithiad Mastodon jest rwan, wela i ddim cyfeiriad atynt o gwbl, so gadawa i lonydd i bethau a jest trio byw gyda'r peth yn fy ffordd arbennig fy hun...