Wedi gosod rhwymyn gyrru newydd ar y trofwrdd am y tro cyntaf ers i ni ei brynu fe yn 2006, ac mae’n wneud byd o wahaniaeth. Dim ond o edrych ar yr hen un cyn ei roi yn y sbwriel ydw i'n sylwi pa mor wael oedd ei gyflwr - bron â bod yn torri'n llwyr.
Dyma'r record cyntaf i gael gwrandawiad teg ar y dec yn ei newydd wedd:
Dw i wedi newid y noddwydd sawl tro*, dw i ddim yn anwariad llwyr.
* dim digon o droeon, siŵr o fod
Rhywbeth arall sy wedi bod yn aros i fi drwsio'r stereo - y diweddaraf o un o fy hoff labeli, @ClayPipeMusic
https://claypipemusic.bandcamp.com/album/ash-grey-and-the-gull-glides-on
Ces i hwn o siop Bookworm yn Aberaeron wythnos diwetha, feinyl newydd, wedi’i or-brisio, braidd: £18 am EP 6-track. Ond does dim byd gyda fi gan y #Cramps ar feinyl, sy’n teimlo fel diffyg, ac mae hwn yn glasur.
Yr un ola o'r pentwr bach o bethau dw i heb wrando o'r blaen yw hwn, a gyrhaeddodd heddi: albym diweddaraf #BeautifyJunkyards, band psych/gwerin o Lisbon. Dw i’n cael rîl flas ar hwn, bydd rhaid dod â'r lleill lawr stâr a rhoi sbin iddynt.
https://ghostbox.greedbag.com/buy/nova-75/
@nic Rhaid bod ti'n gwrando ar feinyl llawer - dwi rioed di teimlo'r angen!
@richardnosworthy dw i wedi casglu tipyn dros y blynydde, trwy prynu ond hefyd trwy gael rhoddion oddi wrth bobl sy’n “downsizing”. Wedi etifeddu o leia 8 casgliad fel ‘na, ac mae wastad rhywbeth o ddiddordeb.
@nic gwych - hoffwn i weld llun o'r casgliad!
@richardnosworthy cei di bori yma - y stwff o'r 80au a 90au sy wedi dod i mewn yn ddiweddar yn rhan o gasgliad ges i yn ystod yr haf
https://www.discogs.com/user/ndafis/collection?page=1&limit=100