toot.wales is one of the many independent Mastodon servers you can use to participate in the fediverse.
We are the Mastodon social network for Wales and the Welsh, at home and abroad! Y rhwydwaith cymdeithasol annibynnol i Gymru, wedi'i bweru gan Mastodon!

Administered by:

Server stats:

680
active users

Wedi gosod rhwymyn gyrru newydd ar y trofwrdd am y tro cyntaf ers i ni ei brynu fe yn 2006, ac mae’n wneud byd o wahaniaeth. Dim ond o edrych ar yr hen un cyn ei roi yn y sbwriel ydw i'n sylwi pa mor wael oedd ei gyflwr - bron â bod yn torri'n llwyr.

Dyma'r record cyntaf i gael gwrandawiad teg ar y dec yn ei newydd wedd:

kosmischerlaufer.bandcamp.com/

Dw i wedi newid y noddwydd sawl tro*, dw i ddim yn anwariad llwyr.

* dim digon o droeon, siŵr o fod

Rich

@nic Rhaid bod ti'n gwrando ar feinyl llawer - dwi rioed di teimlo'r angen!

@richardnosworthy dw i wedi casglu tipyn dros y blynydde, trwy prynu ond hefyd trwy gael rhoddion oddi wrth bobl sy’n “downsizing”. Wedi etifeddu o leia 8 casgliad fel ‘na, ac mae wastad rhywbeth o ddiddordeb.

@nic gwych - hoffwn i weld llun o'r casgliad!

@richardnosworthy cei di bori yma - y stwff o'r 80au a 90au sy wedi dod i mewn yn ddiweddar yn rhan o gasgliad ges i yn ystod yr haf

discogs.com/user/ndafis/collec