Ail-gysylltu gyda'r byd, wedi wythnos neu ddwy heb edrych rhyw lawer ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gollais i unrhyw beth?
Un peth dw i wedi sylwi yw faint dw i'n dibynnu ar Twitter ar gyfer cadw mewn cysylltiad â'r byd. Ro'n i'n digwydd edrych arno fe nos Sul, ar ôl siarad â fy mam a chwaer ar Zoom, a sylweddoli mod i wedi anghofio'n llwyr am gêm pêl-droed Cymru.