Cefnogwch fusnesau annibynnol - support independent shops like Tŷ Caws this Christmas.
@richardnosworthy ni angen siop fel 'na yn Aber! Dwi'n dwli ar gaws da, yn arbennig rhai sydd yn amhosib i ddod o hyd iddyn nhw yn ein ardal ni.
@AngharadHafod mae 'na siopau bach neis eraill yn Aber, o leiaf. Sai'n siŵr ble mae @colinnosworthy yn prynu ei gaws e.
@richardnosworthy @AngharadHafod archfarchnadoedd weithiau, ond weithiau Maeth y Meysydd neu Medina
@colinnosworthy @richardnosworthy @AngharadHafod Ultracomida yn gwerthu dewis da o gosydd, yn tydyn?
@illtud @colinnosworthy @richardnosworthy dim ond unwaith o'r blaen i mi fynd i Ultracomida. O'n i'n cymryd fe mai dim ond pethau o'r Sbaen mae'n nhw yn gwerthu? Ac mae hoff caws fi yn Ffrengig neu o wledydd yr Alpau.
Dwi'n cofio'r hen Delicatessen oedd lle mae siop hufen iâ Aberdyfi nawr; roedden nhw yn dda iawn. Siom mawr bod nhw wedi cau.
@AngharadHafod @colinnosworthy @richardnosworthy Ultracomida yn gwerthu caws o Gymru, rhai o Loegr, Sbaen yn bennaf ond hefyd nifer o Ffrainc. "Caffi Caws" o'n i'n galw o gyda'r plant, mae na fynydd anferth o gaws yno!
(Llun rywun arall wedi ei ddwyn o Google maps...)
@AngharadHafod @colinnosworthy @richardnosworthy roedd bloc o Emmenthal mwy na breeze block pan oeddwn i mewn ddydd Mawrth, mae hwnna'n gaws Alpaidd!
@illtud @colinnosworthy @richardnosworthy oooh! Dyna un o fy hoff cawsiau. Byddai mewn tro nesaf i fi ddod mewn i'r dre.